Annwyl Riant,
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a chydweithwyr y byrddau iechyd wedi bod yn gweithio’n galed i gynorthwyo rhieni yn ystod y pandemig Coronafeirws. Mae cyfle i chi nawr i fynd at gyrsiau dwyieithog, rhad ac am ddim ar-lein, sy’n cwmpasu:
Mae’r cyrsiau ar-lein hyn yn darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr am y cerrig milltir datblygiadol ac emosiynol ar gyfer deall eu plentyn mewn ffordd ddifyr, diogel ac addysgiadol, ac maent yn seiliedig ar y dull Solihull sy’n seiliedig ar dystiolaeth y mae llawer o weithwyr iechyd proffesiynol yn ei defnyddio.
Ar ôl eu lansio’n llwyddiannus ledled Gogledd Cymru, mae’r adnoddau hyn bellach yn rhad ac am ddim ac yn dod ar gael yn ddwyieithog i bawb yng Nghymru sy’n gofalu am blant 0-18 oed. Gallant helpu rhieni, teidiau a neiniau a gofalwyr adnabod emosiynau ynddyn nhw’u hunain a’u plentyn, a gweld sut gallant effeithio ar ymddygiad. Mae’r cyrsiau eisoes wedi helpu llawer o rieni a gofalwyr gynyddu’u hyder yn eu sgiliau rhianta, ac wedi arwain at gartrefi tawelach a hapusach i bawb.
I fynd at y cyrsiau, cliciwch ar y ddolen hon www.inourplace.co.uk a nodwch y cod NWSOL os ydych chi’n byw yng Ngogledd Cymru, a’r cod SWSOL os ydych chi’n byw yn Ne Cymru, i greu eich cyfrif a chael eich mynediad am ddim at y cwrs o’ch dewis.
Mae cyrsiau Dull Solihull [Solihull Approach] yn seiliedig ar dystiolaeth ac wedi’u hachredu gan yr Adran Addysg; eu nod yw gwella iechyd a lles emosiynol drwy gefnogi perthnasoedd (www.solihullapproachparenting.com).
Gobeithiwn y byddant o gymorth i chi, yn enwedig yn y cyfnod heriol hwn.